|
DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU
|
TEITL |
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2024 |
DYDDIAD |
30 Mai 2024
|
GAN |
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet |
|
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2024
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cychwyn gofynion deddfwriaethol ymarferol a gweithredol Deddf Caffael 2023. Dim ond Gweinidogion y Goron sydd â phwerau cychwyn o fewn y Ddeddf; fodd bynnag, mae'n ofynnol i Lywodraeth y DU ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cychwyn darpariaethau o fewn y Ddeddf Caffael ar gyfer Awdurdodau Datganoledig Cymru
Diben y Rheoliadau
Bydd yr offeryn statudol hwn yn pennu 28 Hydref 2024 yn ddyddiad y bydd
darpariaethau o sylwedd y Ddeddf yn dod i rym, gan roi effaith gyfreithiol i'r drefn newydd. Bydd hefyd yn
dirymu'r rheoliadau presennol. Bydd yr offeryn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed sy'n nodi sut y bydd y rheoliadau presennol yn cael eu disodli'n raddol, a sut yr ymdrinnir â chaffael parhaus a chontractau presennol yn ystod y cyfnod trosiannol.
Ni chaiff Gweinidog y Goron, yn unol ag adran 127(3) o Ddeddf Caffael 2023, wneud rheoliadau penodedig o dan isadran 127(2) heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae'r Rheoliadau ar gael yma: The Procurement Act 2023 (Commencement No. 3 and Transitional and Saving Provisions) Regulations 2024 (legislation.gov.uk)
Bydd angen Rheoliadau Cychwyn ychwanegol i gychwyn darpariaethau pellach yn Neddf Caffael 2023, a bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer y rhain hefyd.
Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ni nodwyd unrhyw faterion o'r fath.
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i Weinidog y Goron wneud y Rheoliadau Cychwyn hyn i bennu'r dyddiad dod i rym, gorchmynion cychwyn a threfniadau trosiannol.